About the show

Bydd Elin Fflur yn ymweld â gerddi rhai o sêr Cymru liw nos ac yn sgwrsio am bopeth dan haul (... neu'r lloer!), ac yn ei ffordd agos-atoch bydd Elin hefyd yn dod i nabod y person 'go iawn'. Mae cyfnod y pandemig wedi newid ein byd am byth, ond yr hyn fydd yn aros yn fytholwyrdd – cwmni gwerth chweil a sgwrsio difyr.


Presenter Elin Fflur visits the gardens of some of Wales’ most well-known faces during sunset. Heart-warming, softly revelatory, sometimes humorous but always insightful this simplicity has become the secret of its success. The series has captured a nation’s mood, a gentle escapism, as many of us have had to face difficult lives during this time. The pandemic has changed our lives forever, but one thing that will remain everlasting – a good old chat!

Mwy o Sgwrs Dan y Lloer on social media

Episodes

  • 9: Ian Gwyn Hughes

    12 April 2021  |  45 mins 45 secs
    cymraeg, cymru, elin fflur, podlediad, s4c

    Yn rhaglen ola’r gyfres fe fydd Elin Fflur yn teithio i’r brifddinas ac i ardd un o leisiau enwoca’ y byd pêl-droed o ddiwedd y 90au ymlaen, y gŵr sydd bellach yn Bennaeth Cyfathrebu Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Ian Gwyn Hughes.

  • 8: Olwen Rees

    9 April 2021  |  46 mins 16 secs
    cymraeg, cymru, elin fflur, podlediad, s4c

    Heno fe fydd Elin Fflur yn ymweld â’r actores a’r gantores Olwen Rees yng ngardd ei chartref ym mhentref Wenfô ar gyrion Caerdydd

  • 7: Geraint Lloyd

    29 March 2021  |  44 mins 15 secs
    cymraeg, cymru, elin fflur, podlediad, s4c

    Â’r nos yn cau am Geredigion fe fydd Elin yn cael cwmni un o leisiau enwoca’r ardal, y cyflwynydd radio a’r ‘petrol-head’, Geraint Lloyd.

  • 6: Elin Jones

    15 March 2021  |  35 mins 47 secs
    cymraeg, cymru, elin fflur, podlediad, s4c

    Gyda’r haul yn machlud dros fae Ceredigion fe gawn ni gwmni un o ferched mwya dylanwadol yn holl hanes datganoli Cymru, Llywydd y Senedd, Elin Jones.

  • 5: Sarra Elgan

    8 March 2021  |  34 mins 6 secs
    cymraeg, cymru, elin fflur, podlediad, s4c

    Ar noson aeafol oer fe gawn ni gwmni cynnes y gyflwynwraig, Sarra Elgan, draw yng ngardd ei chartref ym Mro Morgannwg.

  • 4: Dewi 'Pws' Morris

    1 March 2021  |  37 mins 44 secs
    cymraeg, cymru, elin fflur, podlediad, s4c

    Â’r lleuad yn olau uwchben Pen Llŷn, Elin Fflur fydd yn cael cwmni y cerddor, actor, cyflwynydd, diddanwr a’r tynnwr coes Dewi ‘Pws’ Morris.

  • 3: Leah Owen

    15 February 2021  |  44 mins 57 secs
    cymraeg, cymru, elin fflur, podlediad, s4c

    O flaen tanllwyth o dân mae’r atgofion yn llifo ac fe ddown ni i nabod Leah, y fam, yr hyfforddwraig a’r gantores sydd wedi dylanwadu ar genedlaethau o blant Sir Ddinbych a Môn.

  • 2: Kristoffer Hughes

    8 February 2021  |  43 mins 1 sec
    cymraeg, cymru, elin fflur, podlediad, s4c

    Wrth i’r nos gau am Ynys Môn fe fydd Elin yn cael cwmni’r derwydd, y technegydd patholegol a’r Frenhines ddrag, Kristoffer Hughes

  • 1: Mark Lewis Jones

    1 February 2021  |  46 mins 56 secs
    actio, cymraeg, cymru, s4c, wales

    I ddechrau’r ail gyfres fe fydd Elin Fflur yn ymweld â’r actor a’r rhedwr marathon, Mark Lewis Jones yng ngardd ei gartref yng Nghaerdydd. Wrth i’r nos gau am y brifddinas fe ddown ni nabod y dyn go iawn, y tad a’r gŵr sy’n Gymro i’r carn!